kywydd y donn
1 [10r] Y donn benngrychlonn grochleis
2 na goel budd ym gael beis
3 yr tir draw lle daw ym dal
4 nac oeta vi nac atal
5 gat ardwy rrat er duw rri
6 rhwyfo dwfr rhof a dyfi
7 dwc drachefn trefn trychanrhwyt
8 dy vardd wyf vwch dwfr yddwyt
9 a ganodd neb a geneu
10 o vawl ir twf meistrawl tev
11 gymar hwyl gem mor heli
12 gamen mor gymein a mi
13 ni bu brifwynt planetsygn
14 na rhuthr blawdd na deugawdd dygn
15 nac esgut vrwydr nac ysgwr
16 nac ysgwydd gorwydd na gwr
17 nis kyfflypwn gwn gyni
18 grefdaer donn ith gryfder di
19 ni bu organ na thelyn
20 na thafawd digrifwawd dyn
21 nis barnwn yn vn gyfref
22 vordwy glas ath vowrdec lef
23 [10v] ni cheir yr eil geir gennyf
24 am veneit brat neit bryt nyf
25 ond galw y thegwch goleu
26 ai phryt tec yn lle /r/ ffrwt teu
27 am hynny gwna nam llvddyych
28 ymwahanwraig loyw dwfr kroyw krych
29 y vynet vannwyl om barn
30 drwy lwyn bedw draw lanbadarn
31 at verch am gwnaeth ffraeth ffrwythryw
32 vorwyn vwyn o varw /n/ vyw
35 attec wyt rof am kymwd
36 attal ath drwyn ffrwyn y ffrwd
37 Bei gwypyt donn ffalynglwyt
38 Befr gein lateiwreic eic wyt
39 meint vyngherydd am drigiaw
40 mantell wyt yr draethell draw
43 nim lladdo rhyvel gelyn
44 om lluddyvt y dvd y dyn
41 kyt deuthym er eil indec
42 hyt yn dy vronn y donn dec
45 nev /m/ lladd saithvgeinradd serch
46 nam lludd at vorvudd veurverch
Davyt ap glm' ai kant
Darlleniadau Amrywiol
Exr per vetust
2 na ludd goel
5 er Duw rhad ordwy
10 twrf
13 planetdygn
14 clawdd
21 nis barnwn vn yn (vn) gyfref
27 gwnaf
28 wahanwraig
32 + cyfyng gennif fy-nghyngor
cyfeilles marchoges mor